Blog Emrys

Tydi’r Stryd Fawr ddim wedi marw!

Tra bod Pob math o adroddiadau bod siopau yn cau ym mhob tref yng Nghymru mae’r gwrthgyferbyniad yn digwydd yng Nghaernarfon.

Ar hyd Stryd Llyn a Stryd Bangor gwelwch pob math o siopau sy’n cynnig amrywiaeth o nwyddau. Mae ‘na siop ddillad, fferyllydd a dau gigydd. A deud y gwir mae ‘na tri chigydd yng Nghaernarfon sy’n wyrth yn ei hun gan ei bod yn cau a’r tacla siopau mawr yn cymryd y busnes.

Yn yr hen dref gaerog mae wyth siop wedi agor neu newid dwylaw yn yr wythnos diwethaf. Cwpwl o Adelaide, Awstralia yw Sandra a Kim. Mae Sandra wedi agor siop grefftau chwaethus o’r enw Eclectika sy’n golygu Trugareddau a Kim wedi agor Iechyd Da gyda phob math o gwrw lleol a gwinoedd o bob rhan o’r byd.
Yna, mae Y Gist Ddillad, sydd ddim yn newydd ond yn ychwanegiad hyfryd i’r Porth mawr ynghyd a Siop Porth Mawr lle mae Sue Prydderch yn gwerthu gemwaith a llyfrau ail-law i lawr yn yr ogof. Yn siop Eifion gewch ddewis arall o drugareddau chwaethus a Dilys yw’r perchennog newydd.

Yn Stryd y Plas mae mwy a mwy o grefftwyr yn dod ac agor siopau werth chweil fel Siop Iard, gydag artistiaid lleol Ann Catrin ac Angela Evans creu gwaith metel, a chelf llechen gan Dave Stephen.

A nawr mae Llinos wedi agor Cyfarchion yn 6 Stryd y Plas gyda’i addurniadau ac anrhegion.

Mae Jules wedi agor Bazzar Bizzare yn 25 Stryd Fawr ac yn fuan bydd yr wythfed  siop yn agor ei ddrws, sef Holl Bethau Cacen yn 30 a 32 Stryd Fawr lle bydd siop teisennau yn dod. Byddai’n hyfryd os byddai’r siop yn cael ei enwi yn H.W.Jones enw fy nhaid a oedd yn argraffwyr yma am flynyddoedd. Cawn weld!
Ewch am dro ar hyd strydoedd y dref a phigwch i mewn i’r amrywiaeth o siopau bach arbennig sydd ganom yng Nghaernarfon a gyda’r toraeth o lefydd bwyta hefyd, ewch chi byth o’r Dre!

Mai 2015

– – – – – – – – – – – – – – – – –

 

 

Holi Emrys am hanes plasty gwag

Llun gan David Roberts Photography.

Llun gan David Roberts Photography.

Gweler y stori llawn ar wefan y Cymru Fyw.

Mae gobaith y bydd plasty llawn hanes sydd wedi bod yn mynd â’i ben iddo ar gyrion Caernarfon yn cael ei achub a’i droi’n westy moethus ar ôl i gwmni datblygu ei brynu.
Ar ôl i ymgais flaenorol i ddatblygu Plas Brereton fethu, mae’r adeilad, sydd mewn lle amlwg ar ochr y ffordd o Gaernarfon, wedi bod yn wag ac yn dadfeilio ers dros 10 mlynedd.
Os yw’r cais cynllunio’n llwyddo mae cwmni Cabot Park Ltd eisiau troi’r safle yn westy boutique a thŷ bwyta a chreu 20 o unedau gwyliau ar y tir. Maen nhw’n aros i ddatrys cwestiynau am addasu’r fynedfa o’r briffordd brysur … a phroblem gydag ystlumod!
Ond pam fod ‘na gartref mor grand wedi ei godi ar gyrion tref y Cofis? Beth yw stori’r plasty mawreddog â golygfeydd hyfryd dros Afon Menai? Emrys Llewelyn, arweinydd teithiau i ymwelwyr yng Nghaernarfon, sy’n dweud yr hanes:

‘Plas Botwm’ a chyfoeth y llechi
“Cafodd Plas Brereton – neu Plas Botwm fel roedd Cofis yn ei alw am ei fod yn haws i’w ddweud – ei godi yn yr 18fed ganrif ond mae’r adeilad welwn ni heddiw yn dyddio i 1820.

“Roedd y cyfoeth yng Nghaernarfon yn rhyfeddol yn ystod yr 19fed ganrif gyda theuluoedd oedd wedi gwneud eu ffortiwn yn y diwydiant llechi yn codi plastai enfawr fel Plas Glynllifon a’r Faenol. Ond dim i’w gymharu â Chastell Penrhyn ar gyrion Bangor.
“Plas Brereton oedd cartref teulu’r Turner a agorodd Chwarel Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle. Roedd William Turner o Swydd Gaerlŷr yn wreiddiol.
“Daeth ei fab, Llywelyn Turner, yn faer tref Caernarfon am 11 mlynedd ac yn Ddirprwy Gwnstabl Castell Caernarfon. Fo oedd yn gyfrifol am achub y castell a muriau’r hen dref gaerog drwy eu hailadeiladu ar ddiwedd y 1800au . Roedd y Normaniaid wedi cymryd cerrig o gaer Rufeinig Segontiwm i adeiladu rhan o’r castell a’r muriau a chymerodd Cofis Caernarfon yr union gerrig i adeiladu eu tai yn ddiweddarach.
“Roedd y mab arall Thomas Turner yn fanciwr blaengar a fo oedd yn berchen yr hen fanc yn ardal Pendist y dref gyda cherfluniau uwchben y drws, ddaeth yn fanc Lloyds yn ddiweddarach. Bwcis sydd yno bellach.

‘Cyflwr truenus’
“Mae’n drist gweld yr hen dŷ wedi troi yn llanast ofnadwy ond gyda’r bwriad o’i adfer fel gwesty mae gobaith o weld y trysor yn ôl yn ei le.
Mae plasty arall, Plas Tŷ Coch, hefyd yn dirywio ar y safle, ond nid yw’n rhan o’r datblygiad newydd
“Ar lan y Fenai mae bwthyn ceidwad y doc ac mae hwn, fel gweddill yr eiddo wedi mynd i gyflwr truenus. Llwyddodd y cyn berchennog i chwalu ffiniau Plas Brereton a Phlas Tŷ Coch, dymchwel y wal a chodi ffens yn ei le.
“Mae ‘na sôn bod y brodyr Williams yn rhedeg fferi anghyfreithlon o’r llecyn yma draw i Borras ar Ynys Môn cyn iddyn nhw gael eu dal a’u cosbi.

Stori ysbryd
“Mae sawl stori ysbryd yn gysylltiedig â Chaernarfon ond un sydd ddim mor gyfarwydd yw hanes yr ysbryd ym Mhlas Brereton.
“Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd y fyddin yn cadw arfau a deunydd rhyfela mewn cytiau ar y tir a byddai dau filwr yn cadw golwg dydd a nos yno.
“Roedd Twm Parry a Now Coes Glec yn hen fêts ac wedi bod yn cwffio yn y Rhyfel Mawr a nawr yn yr Home Guard ar ddyletswydd. Roedd yn noson oer a gwyntog a’r ddau wedi swatio yn un o stafelloedd mawr y plasty.
“Roeddent wedi cael gorchymyn i gadw golwg am y Luftwaffe wrth iddynt groesi o’r môr tuag at Lerpwl. Nid oeddant wedi gweld na chlywed dim ond roedd rhyw sŵn rhyfedd a dychrynllyd yn dod o’r gerddi. Agorwyd y llenni yn ofalus a chlywed sŵn dychrynllyd yn agosáu at y tŷ! Roedd un o’r hogia yn Nhŷ Potas Ty’n Cei wedi sôn am fwgan yn y tŷ ond wfftio wnaeth y ddau hen filwr.
“Penderfynwyd mynd allan gyda’u gynau i chwilio am yr anghenfil. Wrth iddynt glywed y crochlefain eto aethant ar ras i dalcen y tŷ a stopio’n stond a dechrau chwerthin nerth eu pennau. Beth oedd yn sefyll yno yn clochdar ond clagwydd enfawr!
“‘Be ddiawl ydi’r sŵn ‘ma, byddwch ar charge am hyn dalltwch’ me’ llais Sarjant Tommy Hughes. ‘Dewch i’r tŷ am banad a fe ddywedwn y stori me’ Now.
“Aethant i’r ‘stafell a thywallt panad boeth i’r Sarjant ac wedi iddo glywed am y clagwydd roedd o’n chwerthin hefyd ac ni chafodd y ddau eu cosbi wedi’r cyfan.
“O’r dydd hwnnw Twm a Now Clagwydd oedd enw’r ddau gyfaill a chawsant sawl peint am ddim am adrodd y stori ysbryd a rhoi ychydig o gig ar yr asgwrn wrth gwrs.”

– – – – – – – – – – – – – – – – –

 

 

 

Tylluanod

Tylluan enfawr o Ewrop tu allan i’r Blac Boi wsnos diwetha yn cael gwared o’r gwylanod erchyll!

– – – – – – – – – – – – – – – – –


£1,750 wedi casglu i achos da efo tyfiant blewog

Emrys ar ol siafio / Emrys beard offEmrys blewog / Emrys with the full beard..a gobeithio cyrraedd £2,020! Mae pob ceiniog yn mynd i gefnogi gwaith anhygoel Hosbis St Cyndeyrn, Llanelwy. I gyfrannu cysylltwch ag Emrys ar: 07813142751 neu yrrwch neges ebost, trwy ddilyn linc ar ben y dudalen. Diolch i bawb am eu cefnogaeth!

 

 

 

– – – – – – – – – – – – – – – – –

Dal fy llygaid

Mae’r straeon yma i gyd wedi ymddagos yn Papur Dre


Llanbeblig

Ellen Edwards - Athrawes Morwriaeth

Mae eglwys urddasol Llanbeblig yng nghwmwd Is-Gwyrfai yn hen, hen iawn. Mae’n perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig ac yn un o’r safleoedd Crisnogol cyntaf ym Mhrydain.

Wedi i’r Rhufeiniad adael y wlad a’r Gwyddelod gael eu hel yn ôl dros y d?r, fe sefydlwyd yr egwlys gyntaf, sef cell fechan, gan Publicus. Celt Rhufeinig oedd Peblig a hon yng Nghaernarfon ydy’r unig eglwys yn y byd sydd wedi’i henwi ar ei ôl. Yn ôl y sôn un o feibion Macsen Wledig oedd Peblig. Fe gysylltir Macsen wrth gwrs ag Elen Luyddog a thref Caernarfon.

Mae yna drysorau lu yn Eglwys Llanbeblig. Y t?r a’r gangell a choedwaith to’r transept gogleddol i ddechrau – i gyd yn deillio nôl i’r 15fed ganrif. Mae yma hefyd feddfaen alabastr i’r teulu Griffiths o’r 16eg ganrif. Mae hon i’r gogledd o’r brif allor ac mae’r wal hynaf yn dyddio nôl i’r 13eg ganrif. Ddudish i ei bod hi’n hen do ?!

Roedd Llanbeblig ar daith y pererinion i Enlli. Wedi gadael Esgobaeth Bangor mi fydden nhw’n anelu am Lanfairisgaer ac yna Caernarfon. Ar ôl croesi Afon Seiont, ei throi hi wedyn am hen Eglwys Llanfaglan cyn mynd ymlaen am Glynnog, Pen Ll?n ac Enlli.

Yn ddiweddar, wrth adeiladu ysgol newydd yr Hendre, darganfuwyd rhai o hen feddi Rhufeinig Llanbeblig rhyw ganllath o’r fynwent bresennol.

Mae hen fynwent wreiddiol Llanbeblig, fodd bynnag, mewn cyflwr gwael iawn ond mae yma hefyd drysorau sy’n adrodd hanes y Dre a’i phobol. Mae fy hen daid, John William Jones a’i deulu, wedi eu claddu yma. Dyn o’r Bala yn wreiddiol oedd fy hen daid a bu’n teithio’r wlad fel trafeiliwr yn gwerthu esgidiau cyn ymgartrefu yng Nghaernarfon. Wedi blynyddoedd o weithio fel trafeiliwr a siopwr fe wireddodd ei freuddwyd a daeth yn newyddiadurwr ac yn awdur. Andronicus oedd ei ffugenw. Yn 46 oed daethai yn gaeth i’r cricmala (crud-y-cymalau). O ganlyniad bu’n sgwennu i’r papurau newydd, yn enwedig yr Herald Cymraeg, am saith mlynedd olaf ei fywyd o’i wely yn 25 Stryd Llyn.

Tŷ cymdeithasol iawn oedd tŷ Andronicus. Byddai ei gyfeillion a phobol y dre yn galw am banad a sgwrs a theisen wedi eu coginio gan Ann ei wraig. Deuai’r newyddion ato fo ! Yn 1894 cyhoeddwyd ei gyfrol ‘Adgofion Andronicus’ gan y Welsh National Press Company (Ltd) Swyddfa’r Genedl, Caernarfon. Ar ôl ei farwolaeth yn 1895 ysgrifenwyd cofiant iddo o’r enw ‘Yn y Tren’ gydag enwogion y cyfnod yn cyfrannu i’r gyfrol.

Rhyfedd meddwl bod Andronicus wedi bod yn cyfathrebu â’i ddarllenwyr o Stryd Llyn yn null ei gyfnod a bod ei hen gartref heddiw yn siop gwerthu ffonau symudol !

Dw i wedi bod yn chwilio am ei fedd ers tro byd ac yn ddiweddar, wrth gerdded rhwng y beddfeini, mi ddois i o hyd i golofn hardd â’r geiriau isod arni:

Er serchog gof am J W Jones (Andronicws) yr hwn a fu farw Mehefin 15ed 1895 yn 53 mlwydd oed. Hefyd ei wraig Ann ac aelodau eraill o’i deulu.

Oddi tano mae hir a thoddaid di-enw:

Llenor iawn oedd yn llawn o rinweddau,
Feddai naws crefydd yn ei ysgrifau,
Hudodd wynfydedd yn ei ofidiau
A’i aml ingoedd. I yml ei angau:
Rhoes her i gyfyngderau – a gweithiodd
Nes y diweddodd ei holl gystuddiau.

Un o gannoedd ydy Andronicus ym mynwent Llanbeblig. Gan fod Caernarfon yn borthladd mawr yn ei ddydd, mae yno nifer fawr o feddi llongwyr. Cpt. John Evans of Carnarvon, er enghraiff, died aged 36. Yma mae bedd William Owen, Harbwrfeistr a fu farw ar Ragfyr 26ain 1866 yn 57 oed o’r colera (fel cymaint yn y fynwent).

Mae ’na 38 o feddi hogia lleol gyda’r cyfenw Jones a’r cwbwl wedi cael eu lladd yn Rhyfel Mawr 1914-1918, bob un ohonyn nhw hefyd yn aelodau o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Ymysg y beddi eraill mae gweddillion morwynion, meistri llongau, merched a dynion busnes gan gynnwys y gwerthwr tê, James Patterson, un o efeilliaid, a fu farw ym 1873.

Ym mynwent Llanbeblig hefyd mae beddfaen Ellen Edwards a’i theulu. Roedd hon yn ddynes arbennig iawn gan iddi dreulio 60 mlynedd a mwy yn dysgu morwriaeth i fechgyn Caernarfon a’r cylch. Roedd ei thad, Capten William Francis yn athro mathamateg a morwriaeth yn Amlwch.

Wedi ei farwolaeth dilynodd Ellen ôl troed ei thad gan ddysgu yn ysgol Stryd Newydd.
(Priododd David Edwards a fu farw ar y môr mewn damwain yng Nghonwy). Yn naturiol ddigon, roedd Ellen Edwards yn eithriad am ei bod yn dysgu mewn byd dynion. Roedd yn rhaid i’w disgyblion ieuainc deithio i Lerpwl neu Ddulyn i sefyll eu arholiadau ac roedd Ellen Edwards yn gweld hyn yn annheg iawn.

Gan hynny mynodd bod hawl gan y dynion i gael sefyll yr arholiadau yn lleol. Mae’n bur debyg iddi hyfforddi dros 1,000 o forwyr ifanc dros y blynyddoedd.

Nhw oedd ‘sêr’ y cyfnod a byddai fodins (merched) y Dre yn gwneud eu gorau i fachu llongwr, yn enwedig Capten!

Rhai o’r morwyr enwog a addysgwyd gan Ellen oedd :

  • Capten Thomas Williams, Marine Suprintendant ar y ‘Black Line
  • Capten Henry Jones a Capten Hughes o’r llongau ‘Lightning’ a’r ‘City of Sydney’,
  • Richard Jones ‘City of Melbourne a Capten Hugh Thomas o’r llong 4 mast y Palgrave,
  • Capten John Pritchard o’r Mauritania sef y llong gyntaf a yrrwyd gan stêm. Aeth fy Nhaid a Nain i ’Merica ar y Mauritania newydd rhwng y ddau ryfel byd. Hon oedd chwaer long y Lousitania a suddwyd gan yr Almaenwyr yn ystod Rhyfel Mawr 1914-18.
  • Capten Robert Thomas a dorrodd y record hwylio i San Ffransisco ac yn ôl ddwy waith yn y llong ‘Meirioneth’.

Adnabyddid Ellen Edwards gan ei disgyblion fel ‘Y musus’. Bu farw yn 80 oed ym mis Tachwedd 1889 ; ‘The death of a remarkable woman of Carnarvon’ meddai’r papur lleol.

Cynhaliwyd cynhebrwng enfawr iddi gyda llawer o’r morwyr yn bresennol. Roedd rhain yn uwch forwyr, mêts, llongwyr cyffredin a holl gatrawd y llynges oedd ar ddylestswydd yn y dre ar y pryd.

Dylai Caernarfon gofnodi’r ddynes arbennig yma gyda cherflun. Tydy carreg fedd ddim yn ddigon i Ellen Edwrads.

Ac mae na sawl Ellen arall mewn mynwentydd fel Llanbeblig ar hyd y wlad – dim ond i chi chwilio !

 

– – – – – – – – – – – – – – – – –

Afon Seiont

Yr Afon Seiont

Mae cerdded i lawr Afon Seiont o Bont Peblig i Gei Llechi nid yn unig yn dro braf ond mae hefyd yn gyfle i weld peth o hanes Caernarfon. A gorau oll os gallwch chi gerdded yng nghwmni Tony Lovell a rhannu ei brofiadau. Mae ei straeon am bob llyn a phwll o’r bont i’r cei yn werth i’w clywed.
Mae Tony yn adnabod yr afon fel cefn ei law ac yn gwybod enw pob llyn a phwll sgota ar hyd yr afon. Un o deulu mawr y Lovells ydy Tony, teulu sydd wedi bod yn ymwneud â physgota ar Afon Seiont a’r Fenai ers degawdau. Bydd rhai Cofis yn cofio’r diweddar Ned Lovell (ewythr Tony) oedd fel ei nai, yn dipyn o gymeriad ac yn gwybod yn iawn lle i ollwng bachyn yn yr afon.
Mae Afon seiont yn tarddu yn Llyn Padarn ond mai Rhyddallt yw ei henw nes cyrraedd Llanrug ! Ar y ffordd mae ‘na enwau hyfryd a’r cwbl wedi’u cofnodi gan Tony – enwau fel Tro Tryciau, Llyn Plums, Pwll Johnny Bach a Fflatiau William Owen.
Ar ei thaith mae’r afon wedi creu llynnoedd a phyllau bychain sy’n nefoedd i sgotwrs yn enwedig ar ôl glaw trwm neu ar ôl i’r eira ddadmer ar y mynyddoedd gan droi Afon Seiont yn ruthr gwyn,gwyllt.
Mae ei taith ni yn cychwyn wrth LLYN PEIPAN DDŴR . Hwn ydy’r pwll cyntaf a gafodd ei enw am resymau amlwg ! Ymlaen lawr yr afon at y pyllau eraill.
LLYN PEBLIG.Yma, ger Pont Peblig, yr oedd y ffin nofio rhwng criw Tai Newydd a chriw Ysgubor Goch. Doedd fiw i chi gael eich dal ar ochr anghywir y ffin neu lwc owt !
Mae LLYN WYRCWS o dan Bodfan, lleoliad y Wyrcws yng Nghaernarfon. Roedd ei drigolion druan yn cael tyfu ‘chydig o lysiau ar lain o dir gerllaw ynghyd â physgota yn y pwll ar Afon Seiont. Mae’n amlwg bod pont wedi bod yma ar un adeg gan fod ‘na sylfeini i angori bob ochr i’r afon.
Cafodd LLYN MWNCI ei enw am fod yr afon yn troi fel cymffon mwnci fan hyn – gwreiddioldeb arferol y Cofi !
Ar ôl enw’r teulu a arferai fyw yn y tŷ gerllaw y bedyddiwyd LLYN BUTT. ‘Lledwigan’ ydy enw’r tŷ heddiw ac mae arno’r dyddiad 1779. Bu hefyd yn Rivermead am gyfnod cyn dod yn ôl i ‘Lledwigan’. [Wrth basio dyma i chi gwestiwn cwis. Pa dîm pêl-droed yn Uwchgynghrair Lloegr sydd ag iddo enw Cymraeg? Nage, nid Abertawe na Lerpwl….ond Wigan (sef coedlan)].
Wrth droedio Lôn Felin Seiont gallwch bicio i weld LLYN CRWN, un arall o’r pyllau yr oedd y sgotwrs a’r nofwyr yn ei ddefnyddio. Mae Tony Lovell yn cofio siwin yma yn eu cannoedd ond welwch chi yr un yno heddiw.Ers talwm byddai’r hogia ‘mawr’ yn clymu rhaff ar gangen uwchben yr afon cyn siglo allan a gollwng eu hunain i ddŵr oer y Llyn.
Ar lan Afon Seiont roedd ’na sawl felin. Melin Seiont a Melin Peblig oedd y ddwy yn y rhan yma o’r afon, ill dwy yn felinau blawd. Byddai rhediad yr afon yn golygu bod digon o ddŵr i droi’r olwynion. Mae ffos i’w gweld o hyd wrth yr hen waith brics ynghyd â’r giatiau coed a haearn lle yr arferai dyn agor y giât efo olwyn fawr i ryddhau llif y dŵr. Byddai peth o hwnnw yn cael ei ddargyfeirio i lyn y Parc.
Mae Parc y Dre o dan y Morfa, lle mae caeau Clwb Rygbi Caernarfon. Ar un adeg byddai’r Parc yn gyrchfan i gerddwyr ar ôl yr oedfa fore Sul neu’n llecyn i gariadon gyda’r nos. Mae’n dal yn faes chwarae i’r plant. Agorwyd y Parc yn 1884. Hwn yw’r enghraifft gorau o Barc Fictoraidd ym Mhrydain ac mae’n bechod na fyddai mewn gwell cyflwr. Chwestrelliad o arian o rywle sydd ei angen ! Ar un adeg roedd adar o bob math ar lyn y Parc a sliwod mawr yn hela’r cywion.
Rydym wedi cyrraedd Pont Saint erbyn hyn. Fama mae Llyn Wisgin.
Roedd Cyrnol Wisgin yn byw ar ochr orllewinol yr afon ac mae Caernarfon yn dal i gofio Stewart Wisgin aelod o deulu’r Cyrnol. Hanesydd oedd Stewart a dyn wnaeth gymaint i gadw lluniau o hen adeiladau’r dref a’u cyhoeddi mewn sawl llyfr gwerthfawr gyda gair o eglurhad am hanes yr adeiladau i gyd fynd â phob llun.
Yma ar Bont Saint yr oedd un o dollbyrth mwyaf llewyrchus y wlad. Yn 1808 fe gasglwyd £280 mewn tollau a’r rhan fwyaf gan droliau yn cario llechi o chwareli Nantlle.
Mae Afon Seiont yn troi o fod yn afon wledig i fod yn afon ddiwydiannol wrth i ni gyrraedd cefn adeiladau Cartrefi Cymunedol Gwynedd. Ond mae o’n llecyn bendigedig i ddod efo sbiendrych. Yma fe welwch chi adar fel y creyr glas, degau o hwyaid (y rhai sy’n dod yma yn y gaeaf fel y mrgansers, gooseanders llygaid aur) a weithiau blymiwr mawr y gogledd. LLYN DU sy’n dod nesa gyferbyn â grisiau Jôs Bach (fo oedd Sgwlyn yr hen ysgol ar dop y grisiau) Os byddwch chi’n eithriadol o ddistaw ella y gwelwch chi las y dorlan yn eistedd ar yr hen jeti. Ben bore ydy’r amser gorau i’w weld.
Gerllaw yr oedd y Fflatiau Insinerator? Beth yn y byd oedd y rheiny ? Yn syml , llain o fwd lle bu unwaith ffwrnais. Byddai popeth dan haul yn mynd i grombil hon a Chaernarfon yn cael gwared â’i gwastraff ymhell cyn dyddiau ailgylchu !
Allwch chi ddim methu stesion y trên bach i Borthmadog. Y lein yma oedd yn dod â’r llechi i lawr o Ddyffryn Nantlle. Rwan mae hi’n cario ymwelwyr i ryfeddu ar Eryri. Gyferbyn â’r stesion y mae hen gartref Clwb Rygbi Caernarfon. Yn y blynyddoedd cynnar cafwyd sawl noson gofiadwy yn hen adeilad prentisiaid de Winton !
Dyma ni dan gysgod y Castell. Gadael iddo edrych i lawr arnom wnawn ni tra bod ein golygon ar y Cei Llechi sydd bellach yn faes parcio ond yn dal yn angorfa i gychod pleser a gwaith. Edrychwch yn ôl i fyny’r afon ac ar y tro fe welwch sgerbwd llong y Lille. Fe’i gosodwyd yno i ailgyfeirio cwrs yr afon tuag at y Cei Llechi.Gyferbyn, ar ochr orllewinol yr afon wedyn mae cwch pleser y ‘Queen of the Sea’ wedi’i hangori dros y gaeaf. Cyfle i Emrys y capten gael gweithio arno cyn ei roi yn y dŵr ar gyfer gwyliau mis Mai.
Cyn y flwyddyn 1799 roedd eogiaid wrth y cannoedd yn cael ei rhwydo yn Aber Afon Seiont. Cymaint oedd y ddalfa nes bod pysgod yn cael ei gwerthu am cyn lleied â thair ceiniog y pwys. Nid oedd modd i hyn barhau. Roedd bywoliaeth llawer dan fygythiad a bu’n rhaid i’r Ynadon yn y diwedd gyhoeddi y byddai dirwy o ddeg swllt i unrhyw un a gawsai ei ddal yn pysgota eog.
Mae Caernarfon wedi bod yn borthladd ers cyn co’. Gwyddom fod gan y Rhufeiniaid gei islaw Hen Walia (sydd i fyny’r afon o ble rydym ni ar y funud). Rhwng 1830 a 1880 byddai’r Cei Llechi yn fwrlwm o weithgaredd gyda channoedd o longau yn mynd a dod. Roedd dros 7,000 tunnell o lechi o chwareli Dinorwig a Nantlle yn gadael y Cei i borthladdoedd Ewrop, America ac Awstralia.
Yn ei anterth, yn y 19eg ganrif roedd Caernarfon yn ganolfan gwleidyddiaeth, crefydd ac addysg Cymru hefyd. Cynhelid cyfarfodydd enfawr yn y Pafiliwn. Roedd yn adlewyrchiad o fwrlwm y diwydiant adeiladu llongau, y môr feistri a’r marsiandiwyr,y perchnogion siopau, argraffdai, ffowdris a gwestai’r dref.
Edrychwn i lawr tuag at aber yr afon i’r Fenai at Bont ‘Rabar fel mae Cofis yn ei galw. Cyn i’r hen bont chael ei chwalu yn 1969 roedd ceir yn gallu ei chroesi gan dalu toll bychan. Ac er bod yr hen bont wedi mynd mae Hogia’r Wyddfa yn dal i ganu amdani! Mae’r Lee Ho wedi diflannu hefyd. Hwn oedd y ‘Floating Restaurant’, y caffi cwch. Roedd yn lle braf am baned neu bryd o fwyd a bu’n rhan o’r dre ers blynyddoedd. ‘Be ti’n galw’r Floating Restaurant pan mae’r llanw allan?’ gofynnodd rhywun ryw dro. ‘Restaurant’ ydy’r ateb wrth reswm !
Roedd gan y Clwb Rhwyfo adeilad yn edrych draw at y castell yn yr hen ddyddiau. Nid yw yno mwyach ond mae ‘na glwb rhwyfo o hyd, wedi ymgartrefu yn y Clwb Hwylio. Roedd fy nhaid, Henry William yn aelod o’r Clwb Rhwyfo yn ei ieuenctid.
A dyna ni wedi cerdded rhan fechan o Afon Seiont. Mae’n daith fach hyfryd ac yn werth tynnu’r sgidiau cerdded a’r ffon na allan o’r cwpwrdd ar ei chyfer !

– – – – –

PIGIAD

Dw i wedi bod yn edrych ar nodwyddau ers pan o’n i’n dair oed ac mae pigiad yn dal i frifo weithiau !
Mae clefyd siwgr (‘Diabetes Mellitus’), wedi bod yn rhan o ‘mywyd i ers i mi lithro yn nhŷ fy ewythr a’m modryb yng Nghaer pan oeddwn yn ddim o beth. Mi gollais fy ngwynt yn lân a bu raid i ‘nhad fy nharo ar fy nghefn i mi gael fy ngwynt yn ôl.
Ar ôl dod adra i Gaernarfon roedd yn amlwg bod rhywbeth o’i le. Mae gan fy chwaer Glenys go clir iawn, medda hi, o ‘ngweld i yn trio cael diod o ddŵr o’r tap yn y gegin. Ar ôl hynny daw’r hanes am dad ac yncl Robin yn mynd â fi i Fangor yn yr eira a’r motor yn torri lawr. Bu’n rhaid i dad gerdded yr holl ffordd i’r ysbyty heb i Robin wybod lle’r oedd o wedi mynd nes daeth o yn ei ôl efo ambiwlans. Mae’r bennod fach yna yn rhan o chwedloniaeth y teulu bellach !
Anhwyldeb metabolig ydy clefyd siwgr, sy’n digwydd pan fo’r corff yn methu â defnyddio’r siwgr sydd yn y gwaed. Heb ei reoli’n iawn gall clefyd siwgr arwain at glefyd y galon, clefyd yr arennau a dallineb hyd yn oed. Ar y llaw arall, o gael ei drin yn gall a gofalus mae pobl â chlefyd siwgr yn medru byw bywydau hir, normal a llawn iawn.
Insiwlin ydy’r cyffur sy’n cael ei ddefnyddio yn feddygol i drin rhai mathau o’r clefyd. Mae cleifion gyda math 1 o diabetes yn ddibynnol ar chwistrelliad allanol o insiwlin gan nad yw’r hormon yn cael ei wneud yn fewnol yn y corff.
Mae tua 93,000 o bobl Cymru’n gwybod bod clefyd siwgr arnyn nhw ac mae’n debyg bod tua 40,000 arall yn byw gyda’r cyflwr ond heb wybod hynny. Clefyd y siwgr a’i gymhlethdodau sy’n gyfrifol am 9% o gostau ysbytai Cymru.
Mae gan Mari a fi ein henwau am y cyflyrau gwahanol sydd yn dod yn sgîl clefyd siwgr. Mae ‘bod yn oren’ yn golygu lefelau uchel o siwgr a ‘bod yn las’ yn isel. Daw hyn o’r cyfnod pan oedd profi eich dŵr yn ffordd o ddod i wybod beth oedd y lefelau. Hyperglycemia, neu lefelau siwgr uchel oedd oren, cyflwr lle mae gormodedd o glucose yn cylchdroi yn y gwaed ac yn arwain at gyflwr annifyr lle mae’r person yn mynd yn flin ac afresymol.( Mi fyddai rhai yn dweud ‘mod i felly drwy’r amser, cofiwch !) Daw’r gair ‘hyperglycemia’ o’r iaith Groeg: hyper- sy’n golygu gormodedd; –glyc-, melys; a –emia, y gwaed. Peidiwch â chymysgu hwn efo:hypoglycemia (glas) lle mae lefelau peryglus o isel o siwgr yn y gwaed. Gall hypoglycemia arwain at ‘coma’ lle mae’r claf yn mynd yn anymwybodol. Mae angen chwistrelliad o siwgr yn syth bin bryd hynny. Pan ddaeth Bryn Fôn â fi adre ar ôl tipyn o hwyl yn y Clwb Rygbi unwaith, roedd hi’n amser profi’r piso ond gan na allwn greu diferyn fe wnaeth Bryn yn fy lle a datgan fod y lefals yn berffaith !
Mi gefais i beth anhawster gyda’r clefyd yn fy mhlentyndod. Mi fum i’n fychan erioed – yn eithriadol o eiddil pan oeddwn yn iau. Dim syndod bod pobol yn dal i fy ngalw yn Jo Bach (er, mae’n siwr fy mod wedi etifeddu’r teitl yn rhannol ar ôl fy nhad hefyd). Er nad ydw i’n gawr o hyd, o leiaf dw i’n cael peint yn y dafarn heb i bobol ofyn faint ydy’n oed i ! Pan es i i Lerpwl efo fy mrawd mawr ryw dro, i weld Everton yn chwarae, fe ddywedodd rhyw ddyn tu ôl i far yn Goodison, “you’re alright but I’m not serving the midget’. Fel’na yr oedd hi yn ystod fy arddegau – bechgyn yn dod yn ddynion ifanc a’u meddyliau yn troi at y rhyw deg ond pan oedd yr hogia yn mynd ar ‘date’ ‘ro’n i adra yn darllen !

Wedyn dyma fynd i Fanceinion i weld Dr Anderson, arbenigwr ar glefyd siwgr ac ar ôl pob math o brofion yn ymwneud â thaldra, pwysau, cyhyrau a ballu, dyma’r meddyg yn dweud ‘Well Mr Jones, I’m afraid that you’ll never be a lumberjack’!
Fues i erioed isho bod yn dorrwr coed wrth lwc ond fe ddaeth tro ar fyd wrth i mi chwarae peldroed, rygbi, cerdded mynyddoedd, beicio a chadw’n heini. Mae cael y balans rhwng insiwlin, bwyta ac ymarfer yn allweddol i rywun efo clefyd siwgr a dw i wedi ceisio gwneud hyn ers degawdau. Tydy hi ddim mor hawdd wrth heneiddio ond mae cadw’n ffit yn help garw.
Roedd dechrau chwarae rygbi yn gam mawr i mi ac yn gam a arweiniodd at gadw’n heini ac at wella fy nghorff. Na, tydw i ddim wedi tyfu ond fe ges i ysgwyddau a chyhyrau ac er mai Jo Bach oeddwn i o hyd, o leiaf roeddwn yn gallu dal fy nhir yn y sgrym yn enwedig os oedd Moi a Ken Evans neu Paul Taylor ac Ianto (Ian Hugheston) yn propio.
Ac mi gefais dynnu fy nghoes yn gyson.Fel y pnawn Sadwrn gwlyb hwnnw pan es i chwilio am yr hogia yn y Black Boy a dyna lle roeddan nhw yn swatio wrth y tân. Ar ar y bwrdd roedd ‘na barsel bychan â’n enw i arno. Ar ôl agor y pecyn dyna lle roedd potel o Baby Bio. ‘Rho hwnna yn dy beint ac ella tyfi di !’ oedd y sylw. Mae’n rhaid chwerthin.
Daeth rygbi â rhywbeth arall yn ei sgîl hefyd – clefyd siwgr neu beidio. Mi deithiais y byd, ‘ei led a’i hyd’ gan wneud yn siwr bod pob math o geriach yn dod efo fi. I chi sydd heb glefyd siwgr hawdd iawn ydy taro trôns neu ddau a brwsh dannedd mewn cês ac awê. Dw i, a rhai ‘run fath â fi, yn gorfod gwneud yn siŵr bod y pigiad, y profwr, y bwyd i rwystro hypos a’r papurau sy’n profi y caf i gario offer meddygol i bob man yn y cês hefyd. Ond tydy o byth yn broblem. Wel ?
Roedd mynd trwy reolaeth passport yn Raratonga ar ynysoedd Cook yn hwyl ! Roedd gen i lythyr Cymraeg gan fy meddyg a hwnnw rois i i ddyn y tollau. Edrychodd yn hurt ar y llythyr ac arna i cyn bwgwth fy nghadw yno ! Ond erbyn gweld, nid oherwydd y llythyr Cymraeg, yn hytrach am fod Cymru wedi curo Gorllewin Samoa y diwrnod cynt !
Pan deithiais i Seland Newydd yn 1995 ac Awstralia yn 2003 roedd y gwahaniaeth amser yn rhywbeth y bu raid i mi gadw llygaid arno hefyd. Mae’n bwysig bod patrwm y pigiadau yn gyson ym mha ran bynnag o’r byd y bydda i ! Adra mi fydda i yn cael pigiad am 6.00 bob nos ond pryd oedd hynny yn Christchurch a Brisbane ? Fe ddywedodd Frank, hogyn o Dre sy’n feddyg ac yn byw yn Perth, Awstralia, am i mi gymryd y pigiad am 6 yr un fath. Byddai unrhyw wahaniaeth amser ‘wedi sortio’ ymhen diwrnod neu ddau, meddai Frank. Ac roedd o’n iawn !
Mae’r busnes troi clocia yn y Gwanwyn a’r Hydref, fodd bynnag, yn gallu taflu ambell un oddi ar ei echel. Chwech o’r gloch yn mynd yn bump a saith a ballu ! Mi fydda’ i yn melltithio’r newid yma ddwywaith y flwyddyn ond mae’r corff yn dygymod yn syndod o hawdd.
Pan dw i’n cerdded a dringo mynyddoedd dw i’n gorfod gwneud yn siwr bod y pecyn drygs yn y sach ar fy nghefn. Mi es i ddringo yn yr Alban efo Clwb Mynydda Cymru un gaeaf a mynd i gopa Ben Nevis. Roedd yn brofiad digon anturus ynddo’i hun ond i goroni’r cwbwl, wrth ddod i ddiwedd y daith yng Nghlwb Golff Fort William roedd yn rhaid i mi gael y pigiad chwech bondigrybwyll. Ar y nawfed twll y ces i o, yng ngolau lampau pen yr hogia ! Dro arall mi ges i fy mhigiad yn Alpau’r Swsdir, tua 6,000 o droedfeddi ar lethrau Mont Buet. Tydy cael pigiad yn hwyl deudwch ?!
Cefais brofiad rhyfedd yn Murrayfield pan oedd Cymru wedi malu’r Alban ar y cae rygbi. Mi es i’r lle chwech am fy mhigiad 6 fel arfer gan ofyn i’r hogia aros amdana i. Roeddwn yn mynd trwy’r broses ddeddfol pan gurodd rhywun y drws. ‘Aros funud’ oedd fy nghri. Pan ddois i allan roedd Albanwr bach blin yn sefyll yno er bod tri crwndwll arall yn rhydd. “What’s wrong with those, Jimmy?’ meddwn. A’i ateb ? “Nothing, but I always use this one.” Roeddwn yn gegrwth !
Tydy bod yn gaeth i’r clefyd siwgr ddim yn hawdd ac mae’n gallu bod yn boen mewn tîn reit aml ond does dim rheswm yn y byd pam y dylai eich rhwystro rhag cyflawni unrhywbeth.
Mae’n amser mynd am banad rwan efo tamaid o dorth frith Mari (sydd wedi ei gwneud heb siwgr wrth gwrs) ac ella grafiad hyfryd o fenyn : ond peidiwch â deud wrth y doctor !

– – – – –

Yr Olygfa o Ben Twtil

Os ewch am dro i Ben Twtil, y bryn sydd uwchben y Dref cewch olygfa heb ei ail o ran helaeth o dir Arfon a Môn. Cefais gopi o banorama yn ymestyn 360% o’r copa ac mae’n werth i chi ddringo bryncyn i weld be sydd gan y mapiau difyr yma i’w dangos.
Wrth edrych i’r Gorllewin welwn Drwyn Belan ac Abermenai – Caer a godwyd gan deulu Wyn o Lynllifon yn ystod rhyfeloedd Napoleon ydi Ffort Belan i amddiffyn yr afon rhag llongau’r Ffrancwyr.
Ar ôl gwibio ar hyd Ynys Môn ac heibio Ynys Llanddwyn a’i hanes carwriaethol awn ymlaen at Ynys Lawd a Mynydd y T?r, Caergybi. Os ‘rydym yn gallu gweld Mynydd y Tŵr o Ben Twtil mae’n debyg iawn bod y Rhufeinwyr yn Segontium yn gallu gweld y safle cadw-golwg ar gopa’r bryn uwchb en Caergybi hefyd. Awn ymlaen heibio Mynydd Parys a’i dir arallfydol a Mynydd Bodafon. Tydi pobol Môn ‘ma yn twyllo ei hunan bod ganddynt fynyddoedd, pan dim ond bryniau ydynt mewn gwirionedd!
Wedi mynd yn ôl dros Afon Menai a heibio Dinas Penmaen dawn yn ôl i Dre Chaernarfon a gweld y Castell a’r Dref gaerog. Dyma Doc Victoria, Cafodd y Basen a’r Llithra ei gorffen yn 1830. Rhwng 1850 a 1868 ehangwyd y doc gyda’r bwriad i ymestyn i gyfeiriad Felinheli ond nid oedd digon o arian a dechreuodd oes y llechi bylu. Pobl fel Owen Thomas (coed) a De Winton (gwaith mhetal) Owen Thomas Union Iron & Brass Foundry a Syr Llewelyn Turner, Parciau roedd yn gyfrifol am y datblygiad mawr yma. Roedd 250 o longau yn defnyddio’r doc i allforio a mewnforio a 3,000 o longau’r arfordir a thramor yn defnyddio Porthladd Caernarfon pob blwyddyn!
Wrth droi ein cefnau oddi wrth y môr a Môn, dyma i chi olygfa. Mynyddoedd Eryri yn ymestyn o Benmaenmawr i Drefor a phob copa a’i hanes i’w ddweud.
Y Carneddau yw’r topiau cyntaf i ddal ein sylw. Y tir uchaf ym Mhrydain dros 3,000 o droedfeddi islaw’r Alban. Mae ‘na 7 mynydd dros y 3,000 troedfedd hudol er na allwn weld y cwbl o Ben Twtil. Yn ddiweddar cafodd Carnedd Gwenllïan wedi ei ychwanegu at deulu’r Carneddau. Da o beth yw bod yr enwau naturiol Cymraeg yn cael ei lle yn hytrach na’r nonsens o enwau Seisnig sydd wedi rhoi ar fynyddoedd a dyffrynnoedd ledled Eryri.
Mae’n rhyfedd dweud ond nid yw’n bosib gweld yr Wyddfa o Ben Twtil gan fod Moel Eilio yn ei chuddied ac wrth feddwl mai’r Wyddfa yw’r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr ac eto mae mynydd llai yn ei guddio. Treuliais gyfnod yn gweithredu fel warden gwirfoddol ar Yr Wyddfa gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae can a mil o hanesion o gerdded y copaon ym mhob tywydd a phob math o ddigwyddiadau. Bues yn ffodus iawn o ddod i nabod a chael cyngor am fynydda gan y wardeiniaid llawn amser Sam Roberts, Aled Taylor, John Ellis Roberts, Brian Jones a Cyril Jones a mawr yw fy mharch at ddynion oedd yn adnabod a pharchu tiroedd Eryri ond mi roedd y tacla yn galw’r wardeiniaid rhan amser fel fi yn S.A.S. h.y. Wardeiniaid Sadwrn a Sul!
Awn heibio Crib Nantlle a dod at fynyddoedd y Gorllewin a’r Eifl. Yma mae un o drysorau Cymru, sef Tre’r Ceiri, caer o oes yr haearn. Mae’n werth dringo i’r copa i weld degau o gytiau o fewn mur uchel a golygfeydd i lawr i Ben Llyn ac i’r Gogledd Dwyreiniol.
Dyma ni yn ôl yn Dre a chael golwg ar Maesincla fe dyfais i fyny, draw at gaer Rhufeinig Segontium, ac ni allwn ei weld mae Eglwys Llanbeblig yn cuddio tu ôl i’r gaer. Stori arall yw Llanbeblig
Mae Ben Twtil yn le amhrisiadwy gyda’i olygfa o 360% yn dangos harddwch Arfon a Môn a tydi ddim ond gwerth chwarter awr o gerdded o’r t? acw!
Hoffwch ddiolch i Gwyn Hopcyn Williams am y mapiau ac os oes unrhywun yn gwybod pwy oedd E.S.G. a greuodd y mapiau fyswn yn ddiolchgar iawn o gael gwybod.

Emrys Llewelyn – Chwefror 2013
Mae copiau o’r mapiau ar werth, dim ond i bobol gysylltu efo fi.

— – – – –

Synnau

Rhaffau’n taro mastiau, llongwyr yn gweiddi, synnau’r tryciau yn y gwaith coed a’r ffowndri. Y merched yn taro bargen yn y farchnad bysgod, plant a’i olwyn droi a’r cwn yn rhedeg ar eu holau yn cyfarth a gwichian wrth gael ei cicio gan yr hogia. Swn ffraeo tu allan i’r Patent Vaults wrth i’r meddwyn gwffio am ddynaes neu gêm gardiau aeth yn wyllt. Bellach dim ond swn y rhaffau sy’n bodoli yn Doc Victoria.
Peth cyffredin iawn ydi swn ac mae pob tref yn llawn o synau. Nid yw Caernarfon yn wahannol i unrhyw dref forwrol arall wrth ddisgrifo’r synnau uchod, ond mae ‘na wanhaniaeth mawr yma hefyd. Os ewch yn ol ganrifoedd byddai’r pobol brodorol wedi clywed swn y llengfilwyr rhufeinig yn agosau at y Seiont ac at lle ddaeth yn gaer Segontium. Byddai’n hen bobol yn eu caer bychain ar gopa Twtil yn syfrdan wrth weld llinnell hir o filwyr estron yn cyrraedd, ond mae’n eitha sicr ei bod wedi clywed am ymosodiad ar Fôn a chwalfa’r Derwyddon a’r bobol yno.
Yna yn y 13 ganrif ar ddeg byddai synnau hollol anghyfarwydd yn atseinio trwyr ardal wrth i ganoedd o weithwyr godi muriau a’r castell enfawr ar lannau’r Fenai ar Seiont. Byddai swn dynion yn bystachu i godi cerrig er mwyn adeiladu’r muriau i amddiffyn y dref a’r castell.
Ni fu ymosodiad Owain Glyndwr ar Gaernarfon yn llwyddiannus er iddo a’i filwyr gadw’r dref dan warchau am wythnosau lawer.
Yn ystod Rhyfel Cartref 1642–1651 Fe ddymchwelyd sawl adeilad yn ardal stryd Llanover a stryd Boots o’r gan Cornel Bryon (Brenhinwr) er mwyn amddiffyn y castell rhag fyddin Cromwell. Wrth i Stryd Boot ddiflannu collwyd un o dai to gwellt hynaf yn dref a byddai swn chwalu a llosgi i’w glywed.
Roedd Caernarfon yn un o’r porthladdoedd pwysicaf yn y byd i anfon llechi i phob cornel o’r byd a byddai swn y llogau llechi yn y Cei a’r gweithwyr yn yr Harbwr yn creu cheini, rhaffau, angorau a phob math o nwyddau ar gyfer y llongau roedd yn cael eu adeiladu yn Doc Victoria.
Byddai pobol Brynsiencyn yn dod ar y stemar bach i’r farchnad ar y Maes neu wedyn yn mynd gartref gyda’u cynhyrch ac yn ffarwelio a cyfeillion a chariadon wrth yr afon. Sylwch ar iaith pobol Brynsiecyn hyd heddiw, mae ‘na acen Cofi i’w glywed yno yn rhywle!
Roedd swn y gloch yn canu i gyhoeddi bod crogi carcharwr i fod yn y T?r Crogi a’r dorf yn heglu i lawr i weldy weithred ac yn trin y digwyddiad fel rheswm am barti!
Pobol sy’n gwneud unrhyw dref wrth siarad, chwerthin, ffraeo, dwrdio, caru a chrio.
A byddai synnau gwahanol iawn i’w clywed ar hyd strydoedd Caernarfon yn yr 19ed ganrif. Y Galwr yn cyhoeddi o gannol y dref bod y Maer am gynnal ffair yn y Farchnad, er mai Lloft yr Hol roedd Cofis yn galw’r lle bryd hynny. Galw bod Betsan a Robin o Tref Gof wedi ei llosig i farwolaeth yn eu t? tlawd yn Tre Gof. Swn Rob Robin yn bloeddio yn y stocs yn Pendist ar ôl cael e iddal yn gwneud dryga wedi meddwi.
Y farchnad a ceffylau, gwartheg, troliau, plant yn chwarae, sipswn yn gweiddi, meddwyn y dadla, pregethwyr yn dwrdio, cynghorwyr yn siarad yn glen i gael pleidlais yn etholiad wsnos nesa, Stromboli y dyn cryf yn herio a Martha Fawr yn gofyn i bobol ddyfalu faint roedd yn bwyso.
Ceir,y tren bach, gwylanod, canu ar benwythnos gem rygbi, loris Mansell Davies ac o hyd mae’r cychod yn y cei a’u rhaffau yn taro mastiau yn union fel yr oeddant gant a hanner o flynyddoedd yn ôl.

Emrys Llewelyn – Ionawr 2013

– – – – – –

Cynffon Sidan – Bombycilla garrulus

Ymwelydd gaeaf a ddaeth i Gaernarfon yn ddiweddar a sbydu’r aeron ar y coed yn faes parcio Balaclava. Daw niferodd draw o ogledd-ddwyrain Ewrop. Buont yng Nghaernarfon am wythnos cyn diflannu ar bnawn Sadwrn.

 

 

– – – – –

IAITH – (ac olion ieithoedd)

Mae Caernarfon wedi bod yn dref ryngwladol ers canrifoedd. Cyn i’r Rhufeiniaid ddod yma a sefydlu eu caer yn Segontium roedd pobol Frythoneg wedi ymgartrefu yn eu caer ar BenTwtil. Nid oes dystiolaeth o’r iaith a siaradent ond yr iaith honno ddatblygodd i fod yn iaith Gymraeg. Felly mae’r iaith sydd ar y stryd heddiw wedi bod yma ers ymhell dros ddwy fil o flynyddoedd ond ei bod wedi newid yn aruthrol ers hynny wrth gwrs. Yn y chweched/seithfed ganrif oed Crist mi ddatblygon ni yn Gymru a siarad Cymraeg cynnar. Chafodd yr Anglo Saxon dim llawer o hwyl yma yng Ngwynedd a toedd y Llychlynwyr ddim gwell: eu hel yn ôl i Ddulyn gafodd y tacla! Ond yna pwy ddaeth ond y Normaniaid felltith efo’i cestyll a’u harfau a’u tref filwrol frwnt ac wrth i’r iaith Ffrangeg a ddefnyddiwyd ganddynt ymuno â’r Anglo Sacsoneg mi ddatblygodd yn iaith Saesneg cynnar, a chyda Ffrangeg ac ambell air Cymraeg wedi ei ddwyn gan y brodorion mi roedd cawdal o ieithoedd hyd strydoedd hen dref Caernarfon. Mae hyn i’w weld mewn datblygiad yn enwau’r dref dros y canrifoedd: Caer Seiont, Caer Segont, Segontium, Caer Eudav, Octavium, Caer Sallwg, Caer Salloch, Sallulium, Caer Cystenydd, Caer Cystenyn, Constantium, Minmanton ac, erbyn hyn, Dre! Trwy gydol y datblygiad ieithyddol roedd y bobol leol yn dal i ffermio, pysgota, marchnata, caru a chwffio y Gymraeg. Pan ddaeth morwyr o bob math yma i’r Cei Llechi a’r Doc, cyflwynwyd ieithoedd newydd i’r dref: Saesneg yn bennaf, ond roedd ieithoedd Ewrop ac ymhellach i’w clywed ar hyd y dref. O’r Saesneg daw y gair Cofi, sef Covey, gair am gyfaill. Felly, nid yw’r chwedl bod rhaid i rhywun cael ei eni o fewn muriau’r dref i fod yn Gofi go iawn yn wir gan ein bod i gyd yn Gofis mewn gwirionoedd! A bellach mae ‘na ieithoedd newydd i’w clywed rownd Dre gan fod pobol o Bangladesh, Gwlad Pwyl, Hwngari a sawl gwlad arall yn cael eu cynrychioli a’u clywed yng nhannol tref y Cofis.Ond, be sy’n bwysig ydy’ bod na Gofis yn Dre sy’n dal i siarad Hen iaith Cofi o hyd a mi clywch hi nid yn unig ar y strydoedd ond mewn caffis, siopa a thai potas. Mae’r Cofis yn enwog trwy Gymru ac ar draws y byd hefyd am eu gallu i droi bopeth yn ddigri, sych, a gwamalus! Mae iaith Cofi yn iaith effeithiol ar gyfer comedi: Dyma i chi rhai o’r dywediadau sydd wedi ‘dal fy nghlust’: Mai’n rhy oer i feddwl! Mai’n ddigon oer i rewi rhêch! ‘Ma mhen i yn fy nhin i! Cyw bwch yn byta blew cae! Welai di, ‘sa welai di gynta! Mae’r strew wedi micsio’r giaman. Wedyn, yr eirfa unigryw: Caernarfron, Crips, Piri, Llerfith, Naru, Stagio, Strew, Beilandar, Rhegad, Patro, Giddil, Bewri, Napar, Giaman, Fodan, Apad, Ar Lab, Copio, Cowlsilons, Cheuso, Dwgyd, Dw’l Ali, Dyn tywyll, Giami, Gwymad, Lyrcs, Mags, Migmas, Sgran, Slop, Swalo, Talfar, Llardy, a Jinipedars. A dyna chi’r ffug-enwau ar bobol, pwy oedd rhain a beth oedd eu hanes? Oes ‘na rywun yn gwybod? – Martha Hwb, Owain Jos Dau Funud, Cwd Bwdin, Smoli, Twt, Dryw Bach, Hwn a Hwn Amen, Mari Gwcw, Ifan Gogoni, Dafydd Cranc, Twm Sens, Twm Sentimen, Wil Tŷ nain, Mari Binna, Gwynab Dima, Rob Robin Pres Cofi Ac wrth gwrs y Mags a’r Giaps: Hannar Bwl, Hannar Croch – dau swllt a chwe cheiniog, Hog- swllt, Sei – chwe cheiniog, Magan- dimau, Sgrin – punt. Mae’r geiriau yn dod o Loegr neu Ffrainc ac wedi eu bethyg gan y Cofis i wneud nhw yn eiriau i ni, ond bellach tydi’r bobol ifanc heddiw’n naturiol ddim yn defnyddio’r hen dermau am yr hen bres a heddiw ‘P’ ydy bob ceiniog! Rhyfadd eu bod yn talu am bethau efo pys! Ond ni, yr hen Gofis pia Niwc, sef Cwin wedi ei sillafu ffordd arall. Rhaid cofio hefyd bod Caernarfon yn unigryw o holl drefi Normanaidd gan mai hon sydd wedi cadw ei Chymreictod orau er gwaethau gormes a rheolaeth estron dros y canrifoedd. Daliwch ati, bobol dre i ddefnyddio, Cofi, Co, Niwc a Mag, Giaman a Fodan ne’ mi fyddant wedi diflannu fel y llongau llechi i’r machlud pell. Emrys Ll – Mehefin 2012– – – – –

Tyrau

Mae’r Dref yn llawn o dyrau. Edrychwch o unrhyw gyfeiriad a mi welwch nhw:- tyrau’r Castell, a thyrau muriau’r dref, tyrau’r eglwysi a‘r capeli ac adeiladau eraill o amgylch y lle, ac mae ‘na fwy na digon o risiau i’w dringo. Mae ‘na 13 twr yn y castell ac mae gan bob twr enwau sy’n disgrifio’r rheswm am eu bodolaeth: – Twr y Ffynnon, Twr y Sistern, Twr y Frenhines, ac wrth gwrs y twr amlycaf, sef Twr yr Eryr, ond fel Twr Othon y dylai gael ei adnabod. Othon de Grandson oedd prif gadfridog y brenin Edward y cyntaf a fo oedd ei gyfaill pennaf hefyd ac fe enwodd Edward y Twr ar ôl ei gyfaill. Os edrychwch ar furiau a thyrau’r castell mi welwch ffenestri ac os ewch i fewn i’r castell, hynny yw, os ydych yn fodlon talu tâl mynediad (cofiwch bod cerdyn mynediad i’w gael yn rhad ac am ddim i drigolion y dref yn swyddfa y Cyngor Tref dim ond i chi ofyn) fe welwch rhywbeth reit arbenning sef Bwa Caernarfon (Carnarvon Arch) Dyma ddigrifiad ohonno mewn llyfryn i dwristiaid o 1961 “Another perculiarity popping up in many places is the Caernarvon arch; this is no arch but consists of a flat lintel upon two small corbels instead of coming to a pointed or rounded arch”.  Yn ei lyfr ‘Crusader Castles’ a gyhoeddwyd yn 1936, fe ddywedodd T.E. Lawrence, yn syml iawn wrth ysgrifennu am Gaernarfon “Mae’r fwa ysgwyddog yn amlwg ym mhob cyntedd a passage”. Mae ‘na 10 twr ar y muriau a thair porth – Porth y Maes Glas, y Porth Mawr a Porth yr Aur, (Porth y Môr) a Phorth y Maes oedd y mynediad a ddefnyddwyd o ddydd i ddydd a thrwy’r porth yma daeth Madog ap Llywelyn a’i filwyr i ymosod a chwalu’r dref a’r castell oedd yn y broses o gael eu hadeiladu yn 1294. Y Porth Mawr oedd Trysorlys y Normaniaid, nid y lle mwya poblogaid yn Wynedd,. Dros y blynyddoedd mae wedi bod yn Guild Hall, lle byddai Guilds Caernarfon yn cyfarfod. Roedd 4 prif Guild yn y dref, y Marchnadwyr, y Menygwyr, y Nyddwyr a’r Gwneuthwyr Rhaffau (Mercers, Glovers, Weavers a Cordwainers). Yna daeth ye hen Guld Hall yn bictiwrs a theatr ac roedd fy mam yn osgystal â phawb arall yn ei galw’n ‘Watch and Scratch’! oherwydd yr holl chwain oedd yn y seti! Ac dyna ddod at Borth yr Aur: mae ‘na ddau reswm am yr enw: y cyntaf yw pan mae’r haul yn machlud trwy’r Porth yn y Gwanwyn ac yn yr Hydref mae ei weld trwy’r Porth, felly nid San Ffrancisco yw’r unig le efo Golden Gate! Hefyd yn nyddiau’r llongau byddai ceidwad yn disgwyl yn nh? Porth yr Aur a phan welai long yn dod i angori gerllaw byddai’n codi toll ar y capten am ei nwyddau. Wrth fynd ar hyd y muriau gallwch sylwi ar batrwm ‘grid’ y dref gaerog, lle mae pedair stryd yn arwain o’r castell tuag at y muriau hynny (Pepper Lane a Twll yn y Wal, Stryd 4 a 6 a Stryd y Plas, Stryd y Farchnad a Stryd y Castell yna Stryd yr Eglwys a Stryd y Jêl ac un stryd arall (Stryd Fawr yn arwain o’r Porth Mawr i Borth yr Aur. Mae’n bosib cerdded ar hyd un rhan o’r muriau sy’n rhedeg o eglwys Santes Fair i’r twr sydd uwchben y Black Boy (gyda thywysydd wrth reswm). O dyrau’r Castell welwch datblygiad y Cei Llechi, yr Harbwr, a’r Dref ei hun. Ac o Gastell Bach gallwch weld yr holl ddref o’ch blaen, yn gylch. Dydi copa Pen Twtil ddim yn dwr, ond mae’n werth ei nodi yma gan fod ‘na olygfa wych o’r dre oddi yno. O fama gwelir pam fod y Normaniaid wedi lleoli y Castell a’r Dref yn lle mae o. Mae ‘na dair afon i’w gweld, sef y Seiont, y Fenai a’r Cadnant, sydd bellach o dan y Dref a hefyd deitch mawr, oedd gyda’i gilydd yn gwneud penrhyn o safle’r Dref. Gallwch weld hefyd sut mae Caernarfon wedi ‘mestyn i bump cyfeiriad o ganol yr hen Dref tuag at Bangor, Bethel, Llanberis, Beddgelert a Phorthmadog yn union fel y disgrifiwyd gan Ifor ap Glyn yn ei gerdd Bysedd Caernarfon o’r gyfrol Cerddi Map yr Underground – Gwasg Carreg Gwalch 2001. Trowch y dre ar ei phen A gwelwch Gaernarfon Fel machlud ar y map, A’i lonydd yn belydrau allan i’r wlad, I Fangor a Bethel, Pwllheli, Llanbêr a Weun. – – – – –

Colli

Be ddaliodd fy llygaid y mis hwn oedd y pethau sydd wedi ei colli yn y Dref.

Wrth gerdded o amgylch y strydoedd dwi’n gofyn “lle aeth y Pafiliwn”, a “lle aeth siop Hamers”, Plas Mawr, y Porth Mawr, y Barbican, Pont ‘Rabar, Stesion, y Nelson Emporiwm, Caffi Mantico, y Baths Dros ‘Rabar a degau o lefydd eraill? Yr ateb syml ydi bod pobol oedd yn gwybod yn well wedi eu chwalu ac ambell waith heb unrhyw reswm ond moderneiddio. Be fyddai ychydig o ariain wedi gallu ei gadw i’r dref a’i phobol, dyn a wr. Ond does dim pwrpas mewn dychmygu, beth am ddisgrifo y trysorau a gollwyd. Y Pafiliwn lle roedd canoedd o bobol yn mynd i gyngherddau, ac i wrando ar Lloyd George yn ei dweud hi, i ac i fwynhau ffeiri a marchnaoedd. Siop Hamers lle cefais fy wialen sgota gyntaf gan Taid a dal dim ond anwyd! Yna, y Plas Mawr roedd yr un peth a hwnnw sydd yn Conwy ond tynwyd i lawr ar ôl iddo fynd i gyflwr drwg a rhoi’r farchnad dan-do yn ei le! Hwn oedd ‘Lloft yr Hol’ i’r Cofis a dyma lle oedd ffair fenyn pob Dolig lle byddai pobol fawr yn cael blasu y menyn efo llwy ond y caridyms yn gorfod defnyddio ei bawd! Roedd y Porth Mawr ar Barbican yn rhan allweddol o amddifynfa’r Dref, ond tynwyd y Barbican i lawr a newidwyd cymaint ar y Porth dros y blynyddoedd. Wedyn, y stesion ar tren i Fangor ac ymellach. Yma fyddwn yn mynd ar ‘drip ysgol Sul’ i’r Rhyl pob blwyddyn a weithiau i Butlins. Roedd trip ysgol Sul yn antur mawr i blant y dre a byddwn yn hel ei ceiniogau i’w gwario yn yr hanner awr gyntaf ar ol cyrraedd Y Rhyl! Roedd Baths ‘dros ‘rabar yn Lido yn wir ystyr y gair a canoedd o blant a’i rhieni yno yn yr haf, ond chwalwyd hwnnw hefyd, lle heddiw byddai’n atyniad hanesyddol a lle da i gael dip. Roedd y Nelson Emporiwm yn un o dair siop fawr y Dref, yr Afr Aur a’r Angor Aur oedd y ddwy arall a dyma pam oedd Caernarfon yn cael ei alw’n ‘The Regent Street of Wales’ yn y 19ed ganrif. Maen’t i gyd wedi mynd bellach. Wedyn, caffi Mantico lle mae siop grefftau bellach. Yma oedd ein Canolfan Gymdeithasol pan yn ifanc a yma byddwn treilio oriau yn yfed Coca Cola a gwrando ar bawb o’r Rolling Stones i Edwin Starr. Pont yr Rabar, mae caneuon wedi sgwennu am yr hen bont ac roedd yn edrych yn well ‘na’r bont dwy a dima sydd yno rwan. Tynwyd yr hen bont i lawr yn ystod cyfnod yr arwisgiad a rhoi pont soldiwrs yn ei le. Tybed beth oedd yn feddyliau’r cynghorwyr a fu’n gyfrifol am chawlu Bont yr Aber ar holl drysorau eraill? Ella ein bod nhw i gyd wedi diflannu, ond mae nhw i gyd yn fy nghof ac yn dal fy llygaid sydd wedi cau. Emrys Ll Jones- Ebrill 2012 – – – – –

Cwch Bach Glas

Pob tro dwi’n edrych trwy ffenest fy lloft dwi’n ei weld o, bob dydd ym mhob tywydd. Mae o mor ddel a thwt a chwch plentyn – wastad ‘run fath, mewn hindda neu ddrycin. ‘Uphill Struggle’ yw  ei enw, a rhag cywilydd pwy bynnag roddodd yr enw gwirion yna arno fo! Tydi o byth yn cael ei symud, ond yn aros ar y gwlau Cregin Gleision rhwng Traeth Gwyllt a glan môr Tal y Foel. Ond, weithiau bydd ‘na floedd “mae o’n symud”! A byddaf yn gwirioni wrth weld y Gwch Bach Glas yn stemio tuag at  hen dafarn y Mermaid ac yn ei ôl wedyn! Yn Tal y Foel ‘roedd fferi Caernarfon yn glanio ac roedd fferi yn y dyddiau hynny yn llawer pwysicach na cwch yn croesi o un lle i’r llall a’r morwyr yn codi arian am y gwasanaeth. Yn hytrach, y gwasnaeth hon oedd y gwasanaeth cludiant cyhoeddus neu y wefan ar y dŵr! Heblaw am bobol, byddai’r fferi yn cario nwyddau o bob math, anifeiliaid, post a phlant i’r ysgol yng Nghaernarfon yn ogystal â chario clecs a straeon y fro. Ar un adeg roedd ‘na 6 fferi yn croesi’r Fenai: Caernarfon i Tal y Foel ac Abermenai. Yn Feliheli roedd fferi Moel y Don, ac o Fangor, fferis Porthaethwy a Porthyresgob oedd yno, heb anghofio fferi Llanfaes (Beaumaris). Y fferi ola i hwylio o Gaernarfon oedd MotorLaunch ML Arfon adawodd ar 30ain o Orffennaf 1954 am 5.00 o Gaernarfon a wedyn yn ôl i Gaernarfon am 5.15 am y tro olaf a diweddu gwasanaeth o dros 700 mlynedd! Mae ‘na sawl cân wedi ei sgwennu am Gaernarfon a’r môr ond mae’r gerdd isod yn son am waliau Caernarfon a’r Fenai . Mae’n ddisgrifiad perffaith o be mae rhywun yn ei weld yn aml wrth gerdded ar hyd y prom, heibio Porth yr Aur ac ymlaen at Bont yr Aber. Does neb yn gwybod pwy sgwennodd hi hyd heddiw. Waliau Caernarfon Un noson ddrycinog mi euthum i rodio Ar lannau y Fenai, gan ddistaw fyfyrio; Y gwynt oedd yn uchel, a gwyllt oedd y wendon, A’r môr oedd yn lluchio dros waliau Caernarfon Ond drannoeth y bore mi euthum i rodio Hyd lannau y Fenai, tawelwch oedd yno; Y gwynt oedd yn ddistaw, a’r môr oedd yn dirion, A’r haul oedd yn t’wynnu ar waliau Caernarfon. I droi‘n ôl at y cwch bach glas hwnnw ‘dwi’n ei weld drwy ffenest fy llofft, mi dwi newydd groesi’r Fenai i’w weld o o flaen fy nhrwyn, felly. Wrth edrych ar ‘Uphill Struggle’ yn agos, buan iawn ‘da chi’n sylweddoli mai wedi rhydu mae’r cr’adur, a dim Cwch Bach Glas ydi o mewn gwirionedd, ond Cwch Bach Rhydlyd! Emrys Ll – Chwefror 2012 – – – – –

Hogia’r Maes

Os ewch am dro ar draws y Maes yng Nghaernarfon ar unrhyw ddwrnod  heblaw dydd Sul, fe welwch nhw yno. Pump glew yn taro sgwrs. Ar un adeg r’oeddant yn pwyso ar y ‘Queen Mary’, sef y ffens oedd yn dbeyg i ddec y llong enwog honno wrth ymyl adeilad Pater Noster! Ond pan mae hi’n pistyllio efo glaw, yna byddant mewn caffi yn cael panad ac yn rhoi’r byd yn ei le! Y Maes Glas  Mae’r Maes yng Nghaernarfon wedi bod yn ganolbwynt y dref ers  canrifoedd. Nid yn unigmae wedi cynnal y farchnad dros y blynyddoedd ond ffeiri gwartheg yn y boreau a cheffylau yn gynnar yn y pnawniau, talwrn ceilogod ac ymladd teirw. Roedd yn fan i groesawu’r hogia yn ôl o’r rhyfel ac yma roedd busus 10.00 yn gadael am y wlad ac yn llecyn rhoi sws nos dawch i’r cariad neu gael ffeit efo Cofis ‘lâd! Mae’r Maes yn fan cyfarfod a rhoi’r byd yn ei le i, Jack, Irfon, Jeff, Ifor a Sam. Bob un yn Gofi neu Cofis Lâd ia! Mae testunau eu sgyrsiau yn ddigon i lenwi Encyclopedia Britannica, mi fyddan’ nhw’n sôn am ffwtbol, traffic, nofel ddiweddara Salman Rushdie a hydnoed trafod be mae’r Maer yn wneud ar ben tô Cofi Roc! Ond y prif bwnc trafod ydi lle mae’r ffens a arferai fod yn le delfrydol i bwyso arni i gynnal sgwrs neu ddadl wedi mynd, a pam nad oes un arall wedi ei chodi yn ei lle? Hefyd, mae’r llecyn lle mae’r criw yn ymgynnull yn gallu bod braidd yn beryglus. Yn amal, mae ‘na blant yn rhedeg yn wyllt o gyfeiriad adeiladau’r Pater Noster, heb edrych i lle mae nhw’n mynd. Fel arfer, i gyfeiriad y ffowntan mae nhw’n ‘nelu, heb feddwl bod ‘na geir yn mynd heibio. Ond mae’r criw hamddenol wastad yn dal fy llygaid a deud ‘sumai’. Maent yn gyfeillion ac yn Gofis, a dyna be ydi Cofi. Mae’n golygu cyfaill. Ond stori arall ydi honno. Emrys Ll Jones – Ionawr 2012 – – – – –

Segontium

Ar fryncyn uwchben tref Caernarfon mae olion tref arall hynafol iawn, sef caer Rhufeinig Segontium. Julius Agricola, ymerawdwr Prydain sefydlodd y gaer oddeutu 77 O.C. wedi iddo ddinistrio’r llwyth lleol yr Ordovices yn ddidrugaredd. Mae Segontium wedi ei henwi o bosib ar ôl y llwyth lleol, sef y Segonti, neu efallai ar ôl enw’r afon Seiont . Pan edrychwch ar yr olion nid oes dim byd trawiadol i’w weld, dim ond muriau isel o gerrig llwyd. Ond os ewch heibio’r amgaueddfa fechan (sydd ynghau ar hyn o bryd) fe dewch i sylweddoli bod y safle yn un eang gyda thipyn o stori o’i chwmpas. Segontium oedd prif gaer gogledd Cymru wedi y goncwest Rufeinig ac roedd hi’n eithriadol o bwysig yn economaidd i’r Rhufeiniaid a’r Y Cohort gyntaf o’r Sunici ydy’r unig enw a wyddom ar gatrawd a ymsefydlodd yn Segontium sydd wedi ei gofnodi. Mae ‘na hanes wedi ei groniclo sy’n son am gatrawd y Segontienese yn ymladd yn ne-ddwyrain Ewrop (sydd bellach yn cael ei alw yn Balkans). Roedd hyn yn 4ydd ganrif. Tybed a oedd yna rai milwyr Cofi lleol yn eu mysg? Roedd dwy ran i safle’r gaer, Segontium oedd y brif un ar ben y bryn, yna Hen Waliau ,sef yr is-gaer, phortladd a’r storfa uwchben yr afon. Mae’r prif gaer wedi ei rhwygo gan ffordd Llanbeblig. Mae’n werth mynd i’r rhan ddeuheuol Llanbeblig, er nad ydy’r rhan yma ddim ar agor i’r cyhoedd, er fod Hogia Dre yn mynd yno i chwarae peldroed ac yfed larger! Mae rhan o’r mur i’w weld wrth fynd i lawr llwybyr gyferbyn a mynedfa’r amgueddfa ac mae’n sefyll tu ddwy ran o dair o’i faint gwreiddiol. Mae ‘na son bod criw o’r Dref wedi mynd ar fws i Feddgelert a rhai yn eistedd ar y lawr ucha o’r Dwbwl Decar. Mae un Co yn gweiddi wrth fynd heibio muriau hen gaer Segontium “Yli, mae nhw di roi ffootings lawr fama, ydi nhw’n bildio tai newydd ta be”!? Mae Breuddwyd Macsen Wledig yn rhan o hen chwedloniaeth y Cymry. Yn ôl y stori, sonir bod Macsen wedi syrthio i gysgu ac mewn breuddwyd mae’n cael gweledigaeth ryfedd. Mae’n teithio dros yr Alpau, trwy Gâl a thros y Môr Udd i Ynys Prydain. Yna mae’n cerdded i ogledd-orllewin yr ynys a gweld caer ysblennydd wrth aber gyda mynyddoedd gwyllt a choed y tu ôl iddi ac ynys ffrwythlon gyferbyn. Caer yn Seint oedd y lleoliad a Chaernarfon bellach. Mae chwedloniaeth lleol yn honni bod yr Ymerawdwr Cwstenin wedi ei ail-gladdu yng Nghastell Caernarfon wedi i’r Normaniaid ddod o hyd i’w fedd yn Segontium. Mae’r Cofis yn hoff iawn o straeon ac yn fodlon coelio unrhywbeth sy’n ymwneud â’r Rhufeiniaid! ‘Roedd yr dramodydd Gwenlyn Parry yn byw wrth ymyl y gaer ar un adeg, ac roedd yn honni bod ysbryd Rhufeiniwr yn symud ei gig moch pan fyddai’n gwneud brechdan yn y gegin ben bore! Yn 80au y ganrif ddiwethaf daethwyd o hyd i deml y duw Mithras wrth agor ffosydd i ddatblygu ystad o dai yn yr ardal. Duw o Bersia oedd Mithras ac oedd wedi ei dderbyn gan y Rhufeiniaid tua 68 O.C. Fe gelwir y tai yn ‘Tai Newydd’ o hyd, ac mae’n ymddangos bod y trigolion yn byw ar ben teml duw oedd yn bodoli 1,800 mlynnedd ynghynt! Mae’n hyfryd meddwl bod y dref hon wedi bod yn leoliad o bwysigrwydd ers bron iawn i 2,000 o flynyddoedd, a bod olion y rhai a ddaeth yma i’w gorchfygu i’w gweld o hyd, a bod arlliw o’u hiaith nhw yn pupuro’n Cymraeg ninnau hyd y dydd heddiw. Emrys Llewelyn 2012 – – – – –

Crysa ar y Lein

Be’ sy’ wedi dal fy llygaid y tro yma ydy’ pedwar crys rygbi ar y lein a hanes i bob un. Y cyntaf i dynnu fy sylw oedd crys y ‘Redland Crabs’ o Brisbane Awstralia lle buom yn 2003. Mae’r cyfeillgarwch efo’r Crancod yn dal i barhau er eu bod dros 10,000 milltir i ffwrdd: Peth da ydi’r e-bost ‘ma! Daeth rhai o’r Crancod i Dre yn 2008 ac roedd Graham (Madog) yn meddwl bod Porthmadog wedi ei enwi ar ei ol! (Mae o wedi cael ei alw’n Madog am ei fod o fel ci gwyllt ar faes rygbi!) Wedyn yr ail grys dynnodd fy sylw oedd crys Gŵyl Goffa Bob Anderson, sef yr Ŵyl Rygbi Hen Hogia Cymru gyntaf a digwyddiad i gofio am Bob a oedd wedi bod  ar sawl taith hefo ni. ‘Da ni i gyd yn colli Bob’. Crys lliwgar oedd nesa efo’r geiriau: ‘Te Puka Tavern’ arno, carterf yr ‘Oil Blacks’ tîm â ymunodd Y GOGs â hwy. Aethom i Seland Newydd yn 1995 a chwarae yn Christchurch sydd bellach wedi dioddef yn erchyll gyda’r deargryn ym mis Chwefror ac roedd cofio am y bobol a’r llefydd welais bryd hynny yn dod âg atgofion yn ôl i mi. A’r olaf ar y lein roedd crys Gŵyl Ewrop 2010 pan ddaeth Ewrop i Gaernarfon i chwarae rygbi a mwynhau sieri binc a chroeso’r Cofis. Mil o bobol, 33 tîm a 15 gwlad. Mae pobol Dre dal i ofyn ‘pryd mae nhw’n dod yn ôl’!? Pedwar crys yn dawnsio yn y gwynt, a phedwar atgof arbennig o fod yn rhan o’r GOGs a chael gweld y byd.   – – – – –